Datganiad hygyrchedd ar gyfer ap symudol GOV.UK ID Check
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r:
- ap symudol iOS GOV.UK ID Check a gyhoeddwyd yn gyntaf ym mis Gorffennaf 2022
- ap symudol Android GOV.UK ID Check a gyhoeddwyd yn gyntaf ym mis Hydref 2022
- tudalennau gwe sy’n gwirio a yw’ch dyfais yn addas i ddefnyddio’r ap
Mae’r apiau symudol a’r wefan yn cael eu rhedeg gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS).
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r apiau hyn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a maint ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys VoiceOver a TalkBack)
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r tudalennau gwefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun yr ap mor syml â phosibl i’w ddeall.
AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r apiau symudol hyn
Cymhwysiad Apple iOS
Bydd yr ap yn defnyddio gosodiad iaith iOS y defnyddiwr yn hytrach na’r iaith a ddewisant ar wefan GOV.UK One Login.
Cymhwysiad Android
Bydd yr ap yn defnyddio gosodiad iaith system Android y defnyddiwr yn hytrach na’r iaith y mae’n ei dewis ar wefan GOV.UK One Login.
Ar rai dyfeisiau, gall defnyddwyr ei chael hi’n anodd i rhyngweithio â’r ddolen ‘trwyddedau ffynhonnell agored’ ar dudalen cyntaf yr ap. Mae hyn oherwydd mae’n llai na’r maint a argymhellir.
Efallai y bydd defnyddwyr sydd wedi cynyddu maint y ffont a maint arddangos ei chael hi’n anodd darllen y testun yn yr ap. Mae hyn oherwydd bod rhwyfaint o’r testun yn gorgyffwrdd pan ddefnyddir maint testun mawr a maint arddangos uwch gyda’i gilydd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch – gallwch ddod o hyd i fanylion llawn ar y datganiad hygyrchedd ar gyfer GOV.UK One Login.
Pan fydd defnyddiwr yn mynd trwy’r tudalennau gwe sy’n gwirio a yw eu dyfais yn addas i ddefnyddio’r ap, efallai na fydd eu dewis iaith yn parhau os maent yn defnyddio’r ddolen ’yn ôl’. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen iddynt ddewis eu dewis iaith eto.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn cael anhawster defnyddio’r apiau neu’r wefan, cysylltwch â ni.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r ap symudol
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb, sy’n cael ei redeg ar ran EHRC.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap symudol
Mae GDS wedi ymrwymo i wneud ei gwefan ac apiau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â nodau safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Wrth ddefnyddio’r cymwysiadau symudol, gall defnyddwyr ei chael hi’n anodd rhagweld pa osodiad iaith y bydd y wefan a’r rhaglen yn ei defnyddio oherwydd cymhlethdod technegol gweithredu newid iaith rhwng dyfeisiau.
Pan fydd defnyddiwr yn mynd trwy’r tudalennau gwe sy’n gwirio a yw eu dyfais yn addas i ddefnyddio’r ap, mae gweithrediad technegol y ddolen ‘yn ôl’ yn golygu efallai na fydd eu dewis iaith yn parhau os maent yn defnyddio’r ddolen ‘nôl’. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen iddynt ddewis eu dewis iaith eto.
Ar rai dyfeisiau Android, mae’r ddolen ‘trwyddedau ffynhonnell agored’ ar dudalen gyntaf yr ap yn cael ei harddangos gyda maint targed sy’n llai na’r 48 picsel dyfais a argymhellir gan Google. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.5.8 9 (Maint Targed) a maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.4.11 (Ffocws Heb ei Guddio).
Ar ddyfeisiau Android, nid yw rhai tudalennau’n ymateb yn dda os yw maint testun mawr a maint arddangos uwch yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.4.4 (Newid Maint Testun).
Os ydych yn dod o hyd i broblem nad ydym eto wedi’i nodi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran ’Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r ap symudol hwn’ o’r datganiad hwn.
Baich anghymesur
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw geisiadau baich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Gorffennaf 2022. Cafodd ei adolygu a’i ddiweddaru ddiwethaf ar 27 Tachwedd 2024.
Profwyd yr apiau symudol hyn ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2023. Cynhaliwyd profion gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ac yn seiliedig ar allu defnyddiwr i gwblhau teithiau allweddol. Profwyd pob rhan o’r daith ap symudol.